Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 – Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Rhagfyr 2023
Amser:
13.30 -
15.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13580
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Adam Price AS |
|
Tystion: |
Debra Carter, Llywodraeth Cymru Ruth Cornick, Llywodraeth Cymru Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Simon Tew, Llywodraeth Cymru |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
3.1 SL(6)422 - Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.2 SL(6)421 Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
4.1 SL(6)406 - Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
4.2 SL(6)417 - Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
5 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
5.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y
Gweinidog Newid Hinsawdd.
5.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Pysgod Tiwna Iwerydd) (Diwygio) 2024
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau: Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y
Pwyllgor Deisebau a'r ddeiseb roedd yn tynnu sylw ati. Nododd hefyd yr ohebiaeth gan y Deisebydd at y Pwyllgor Deisebau
6.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: Bil Rhentwyr (Diwygio)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y
Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd.
6.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Pwyllgor Cyllid: Bil Seilwaith (Cymru)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y
Gweinidog Newid Hinsawdd at y Pwyllgor Cyllid.
6.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Arferion gosod preswyl
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y
Gweinidog Newid Hinsawdd.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog gyda chwestiynau atodol.
9 Ymchwiliad i Lywodraethiant y DU a’r UE: Diweddariad
Trafododd y pwyllgor ei ddull gweithredu i roi cyhoeddusrwydd i'w adroddiad ar lywodraethiant y DU a'r UE, a chytunodd arno
10 Dyfodol cyfraith Cymru: Rhaglen ar gyfer 2021–2026 – Adroddiad blynyddol 2022-2023
Trafododd y Pwyllgor yr Adroddiad Blynyddol a chytunodd i wahodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i sesiwn graffu gyffredinol yn y flwyddyn newydd, pryd y gellid rhoi ystyriaeth bellach i'r Adroddiad Blynyddol.
11 Gweithdrefnau ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan: Ymateb drafft i’r Pwyllgor Busnes
Trafododd y Pwyllgor ei ymateb i weithdrefnau’r Pwyllgor Busnes ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 a fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan.
12 Blaenraglen Waith
Nododd y Pwyllgor ei Flaenraglen Waith a chytunodd arni.